Latest news:

Various locations and businesses around Llantwit Major, including the Beach Cafe and Elaine's Tearooms, are being used to film a new Welsh comedy-drama about Cockle pickers, due to be screened in 2008. More information coming soon...

llantwit major
Home
Site Tour
Scenery
The Beach
History
Ghost Stories
Accommodation
Local Attractions
Local Transport
Llantwit Major Clubs & Groups
Speed Cameras
Businesses
Flooding Information
Useful Contacts
Area Map
TraceUs
Guestbook
E-Cards
LLantwit Major on eBay
Support Local Traders
Advertising
Diabetes UK
Web Design
Contact Us

Go back a pageHistory
Fersiwn Saesneg/English version

Mae popl Llanilltud Fawr yn byw mewn man sydd wedi bod yn drigfan ers 3000 o flynyddoed. Bu'n gartref i drigolion yr Oes Efydd a'r Oes Haearn, yn ogystal a'r Rhufeiniad, cyn i'r Eglwys Geltaidd droi'r fan yn un o bwysigrwydd cenedlaethol, ond cafodd yr adeiladau hynaf sydd i'w gweld heddiw eu codi gan y Normaniaid.

Town HallY lle gorau i'r ymwelydd gychwyn ar daith o'r dref yw'r Swyddfa Ymwelwyr sydd o dan risiau Neuadd y Dref, na fu, yn ddiddorol ddigon, erioed yn neuadd y dref. Nes i gynghorau plwyf gael eu ffurfio tua diwedd y 19eg ganrif, nid oedd gan LLanilltud Fawr reolaeth dros ei matrion ei hun o gwbl. Pan gafodd Morgannwg ei choncro gan y Normaniad, dan arweiniad Robert Fitzhamon, rhannwyd y rhan fwyaf o'r Fro ymysg y marchogion Normanaidd, ond cadwodd Robert Fitzhamon, a ddaeth yn Caerloyw ac yn Arglwydd Morgannwg, Llanilltud Fawr iddo'i hun, gan sefydlu maenor fiwdal i ddarparu grawn i'w garsiwn yng Nghastell Caerdydd. Felly rheolwy Llanilltud Fawr gan Arglwydd Morgannwg, ond ni fu ganddi na siarter na chastell erioed. Llys maenorol oedd Neuadd y Dref, a adeiladwyd gan Gilbert de Clare yn ol y son, ac yma y penderfynwyd materion y faenor. Ali-adeiladwyd y Neuadd y Dref sy'n sefyll heddiw ar ddiwedd y 16eg ganrif.

Sgwar y Dref

Yng nghanol sgwar y dref mae croes bregethu, sydd bellach yn gofeb rhyfel. O'i chwmpas saif twr o adeiladu Tuduraidd, a godwyd pan fu rhaid ail-adeiladu'r dref wedi ymweliad gan Owain Glyndwr gyda than a chledd yn fuan wedi troad y 15ed ganrif.

Old White HartTua 1440, daeth teulu newydd y Raglans neu'r Raglands i Llanilltud Fawr. Adeiladodd Robert Raglan dy sydd bellach yn dafarn yr Old White Hart. Dyma'r adeilad hynaf yn y dref i fod yn breswylfan parhaol. Yna tua 1465, adeiladodd Raglan dy newydd, a gafodd yn nes ymlaen ei ddefnyddio fel ty offeiriad. Cafod yr adeilad ei ymestyn yn 1874 a'i droi yn ysgol y pentref. Heddiw mae'r Hen Ysgol yn cael ei defnyddio gan grwpiau cymunedol.

Mae'r Old Swan Inn ar ochr arall y sgwar yn dy Raglan arall. Mae yna hanes y bu'r dafarn yma'n fathdy ar un adeg. Mae hyn yn dyddio o'r cfynod pan fu'r perchennog. Edward Maddocks yn gwneud tocynnau pres ar gyfer ei weithwyr. Roedd yr Old Swan yn dafarn boblogaidd gan ymwelwyr o America cyn rhyfel 1939-45 pan oedd William Randolph Hearst yn berchennog Castell Sain Dunwyd.

Plymouth House Llantwit Castle

Yn Stryd y Coleg ger yr eglwys mae yna adeilad deniadol o'r 16eg ganrif a adwaenir fel Plymouth House. Hwn oedd ty aeth i ddwylo teulu larll Plymouth.

Yn Stryd y Gorllewin mae adfeilon ty a fu'n drigfan am ond can mlynedd sef Llantwit Place (sy'n aml yn cael ei alw yn Gastell Llanilltud Fawr) a adeiladwd yn 1596 i Edward Vann, ond cyn diwedd yr 17eg ganrif roedd y teulu wedi marw allan ac fe adawyd y ty. Nid yw bellach ond adfail peryglus.

Ty Mawr - Great House

Ym mhen gorllewinol y dref mae'r Ty Mawr, sy'n dal ymron heb newid ers y'i adeiladwyd tua 1600 yn gartref i deulu'r Nicholls, pobl fwyaf cefnog y dref. Cyn rhyfel 1939-45, roedd y ty'n wag ac yn dadfeilio, ond mae wedi cael ei ailadeiladu ers hymny.

Ty Mawr

Y Fila Rhufeinig, Caer Mead

Ychydig i'r gogledd ffordd osgoi, ar un o'r lonydd cul a elwir Lon Morfa, mae safle fila Rhufeinig, a fu'n aneddiad rhwng tua 150 a 350. Fferm fawr oedd hi gydag adeilau byw, stablau a gweithdai, gyda mosaigau cain a chyfres o faddonau. Yn anffodus, er mwyn cadwraeth a diogelwch, mae'r adfeilion wedi'u gorchuddio.

Eglwysi

Yn 1777 disgrifiodd John Wesley Eglwys Sant Illtud fel "yr eglwys brydferthaf a'r fwyaf yng Nghymru", ac mae iddi hanes hirfaith. Mae'r safle wedi bod yn fan addoli Crist ers 1500 o flynyddoed pan ddaeth Illyud yma gan sefydlu eglwys, mynachlog ac ysgol yma ger Nant Ogney. Daeth yn fan claddu brenhinoedd lleol ac yn ganoflan cenhadaeth bwysig. Mae yn yr eglwys un o'r casgliadau mwyaf sylweddol o gerrig Celtiadd yng Nghymru.

St. Illtyds Church

Mae yna ormod gyfoeth yn gysylltiedig a'r eglwys i'w ddisgrifio'n fanwl yma i gyd, ond mae llyfrynnau ar gael yn yr eglwys Ddwyreiniol. Ni ddlai'r ymwelydd basio heibio heb alw i mewn i weld nodweddion fel y murluniau, y reredos carreg, yr allor ganoloesol (yng Nghapel y Forwyn), Eilunfa Jesse a'r cerrig cofeb anarferol.

Rhoddodd y Normaniaid yr eglwys, ynghyd ag ychydig dir i Abaty Tewkesbury, ac yn edrych dros yr eglwys mae adfeilion ffern yr abaty, Porthdy o'r 13eg ganrif ac, yn y cae gyferbyn mae yna golomendy. Sofodd ysgubor ddegwm yn y fan yma nes diwedd y 19eg ganrif.


Adeilad modern yn Ham Lane East yw Eglwys Gatholig Forwyn Fair a Sant Illtud. Wedi'r Refformasiwn nid oedd yna le yn Llanilltud Fawr i Gatholigion addoli nes 1921 pan agorwyd y cyntaf. Agorwyd yr eglwys Gathoplig gyntaf yn 1951, ac fe'i disodlwyd gan yr adeilad presennol yn 1965.

Agorwyd Tabernaci, Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn 1822 yn Methodist Lane, a saif Eglwys Ddiwygiedig Unedig Ebenezer yn Stryd Colhuw. Mae'r Bedyddwyr yn addoli yng nghapel Bethel a agorwyd ar gyfer "Bedyddwyr Neilltuol" yn 1830.

Trebefered

Boverton CastleYng nghyfnod y Normaniad Trebefered oedd canol y faenor. Mae'r diriogaeth, y tir yr oedd Arglwydd Morgannwg yn berchen arno, yn dal i fodeli fel Boverton Farm. Yr adfail sydd uwchlaw'r pentref yw Boverton Place a adeiladwyd tua diwedd y 16eg ganrif gan Roger Seys, Twrnai Gwladol dros Gymru.

Mae Boverton House yn blasty Tuduraidd deniadol, sydd heb newid o gwbl ymron ers y'i adeiladwyd. Bu hwn hefyd yn gartef i deulu'r Seys.

Copyright © 2001 Vivian Kelly.

SMILE
Find accommodation in Llantwit Major
Elaine's Tearooms
The West House Country  Hotel
Colston & Colston Lettings
Jacqueline Swift Photography
the vale organisers
financial planning solutions
Nutz Gentlemans Barbers
david edwards photography
Barefoot Studio
Mike Baker
RIDAD Internet Solutions
Mobiles in Wales
Designed by RIDAD Internet Solutions. Copyright © 2005
A trading company of Sure Solutions Ltd